Mae'n gyffredin i berson hŷn fod yn profi mwy nag un math o gamdriniaeth ar yr un pryd.
Cam-drin corfforol
Cam-drin corfforol yw cam-drin neu anafu person hŷn. Fe allai fod yn fwriadol neu'n ddamweiniol. Gallai anafiadau gael eu cuddio, gan nad yw'r camdriniwr am i eraill wybod am y cam-drin.
Arwyddion o gam-drin corfforol
-
Toriadau i'r croen, llosgiadau, cleisiau a chrafiadau
-
Anafiadau nad ydynt yn cyd-fynd â'r esboniad a roddwyd amdanynt
-
Anafiadau a chlwyfau mewn rhannau cuddiedig o'r corff
-
Anafiadau mewn rhannau o'r corff sydd wedi'u hamddiffyn e.e. ceseiliau
-
Anafiadau heb eu trin
-
Gorddefnydd neu danddefnydd o feddyginiaethau
Mae rhagor o wybodaeth ar gael yma
Camdriniaeth Ddomestig
Ymddygiad o orfodi, rheoli, bygwth, trais neu gamdriniaeth gan aelod o’r teulu, partner neu gyn-bartner yw camdriniaeth neu drais domestig.
Arwyddion posib o Gamdriniaeth Ddomestig:
-
Arwyddion corfforol o gleisio, anaf i’r corff.
-
Gwneud esgusodion am anafiadau a beio’u hunain, osgoi gweithwyr meddygol proffesiynol.
-
Esgusodi ymddygiad aelod o’r teulu/partner, gwneud esgusodion drostyn nhw.
-
Newid mewn personoliaeth – mynd yn dawedog ac yn orbryderus.
-
Newidiadau i arferion bwyta, cysgu, mynd i’r tŷ bach.
-
Newidiadau mewn sefyllfa ariannol unigolyn, penderfynu gwerthu eiddo neu newid enwau argyfrifon neu ddogfennau cyfreithiol yn ddirybudd.
-
Dibynnol ar aelodau’r teulu/partner i gael arian, a dim mynediad bellach at eu harian na’u budddaliadau eu hunain.
-
Poen, cosi neu anaf yn ardal yr organau rhywiol neu’r abdomen.
-
Chwilio am gadarnhad yn gyson gan aelod o’r teulu/partner, gor-blesio.
-
Ddim yn cymdeithasu bellach, yn fwy ynysig, yn amddiffynnol.
-
Aelod o'r teulu/partner ddim yn gadael i'r unigolyn fod ar ei ben ei hunan gyda chi.
Mae rhagor o wybodaeth ar gael yma
Cam-drin seicolegol
Caiff cam-drin seicolegol ei alw'n gam-drin emosiynol weithiau. Gall fod ar ffurf bygwth, bwlio, ynysu, gweiddi, blacmel neu feio.
Mae anwybyddu person hŷn yn fwriadol gan eu hamddifadu o anghenion a phleserau sylfaenol hefyd yn gam-drin seicolegol. Gall fod yn anodd sylwi bod cam-drin seicolegol yn digwydd, gan nad oes creithiau corfforol i neb eu gweld.
Arwyddion o gam-drin seicolegol
-
Gall y dioddefwr deimlo neu ymddangos yn isel ei ysbryd, yn dawedog, yn ofnus, yn aflonydd, yn bryderus neu'n ymosodol.
-
Mae'r person hŷn yn teimlo neu'n ymddangos fel petai wedi'i ynysu.
-
Mae newid annisgwyl neu anesboniadwy o ran tymer neu ymddygiad.
Mae rhagor o wybodaeth ar gael yma
Cam-drin Ariannol
Cam-drin ariannol yw'r math mwyaf cyffredin o gamdriniaeth yn erbyn pobl hŷn sy'n cael ei gofnodi. Gall hefyd gael ei adnabod fel dwyn, twyll, ffugio ac embeslu.
Does dim rhaid i'r swm ariannol fod yn fawr er mwyn cyfrif fel cam-drin ariannol. Gall cymryd swm bach o arian yn rheolaidd gan berson hŷn olygu swm mawr yn y pen draw.
Mae camdrinwyr yn aml yn cyfiawnhau'r gamdriniaeth gan feddwl eu bod yn haeddu'r arian gan eu bod wedi ei ennill, mai nhw ddylai ei etifeddu neu drwy feddwl nad oes mo'i angen ar y person hŷn.
Arwyddion o Gam-drin Ariannol
-
Bod prinder arian ar gyfer angenrheidiau sylfaenol fel bwyd, gwresogi neu ddillad, er bod ganddynt incwm digonol.
-
Bod arian wedi'i dynnu o gyfrifon banc rhywun heb esboniad.
-
Bod person hŷn yn methu esbonio beth sy'n digwydd i'w incwm.
-
Bod eiddo, cyfriflenni banc neu ddogfennau eraill yn diflannu.
Mae rhagor o wybodaeth ar gael yma
Cam-drin rhywiol
Cam-drin rhywiol yw gorfodi person hŷn i gymryd rhan mewn unrhyw weithgaredd rhywiol heb eu cydsyniad.
Arwyddion o Gam-drin Rhywiol
-
Poen, cosi neu anaf o gwmpas yr organau cenhedlu, yr anws neu'r abdomen
-
Gwaed ar ddillad isaf, neu ddillad isaf wedi'u rhwygo neu eu staenio
-
Marciau cnoi neu gleisiau ar fronnau, gwddf neu wyneb
-
Clefyd gwenerol neu lid y bledren yn digwydd fwy nag unwaith
-
Anhawster yn eistedd neu'n cerdded oherwydd anesmwythyd o gwmpas yr organau cenhedlu
Mae rhagor o wybodaeth ar gael yma
Esgeulustod
Esgeulustod yw methu darparu angenrheidiau sylfaenol fel bwyd, dillad, hylendid, ac ysgogiad meddyliol i bobl. Gall pobl hŷn gael eu hesgeuluso yn y cartref neu mewn cartrefi gofal ac ysbytai.
Arwyddion o esgeulustod
-
Dirywiad o ran pryd a gwedd unigolyn neu eu hylendid personol
-
Amgylchedd anhylan neu anniogel
-
Brech, doluriau a briwiau, a cholli pwysau heb fod esboniad
-
Prinder bwyd, diod neu ofal meddygol
-
Diffyg ysgogiad cymdeithasol
Mae rhagor o wybodaeth ar gael yma
Arwyddion cyffredinol o gam-drin
-
Anhawster yn cael mynediad at y person hŷn
-
Anhawster yn cael cyfle i gyfweld â'r person ar ei ben ei hunan
-
Ymweliadau cyson â'r meddyg teulu neu adran damweiniau ac achosion brys
-
Gwrthod gwasanaethau cymorth
-
Hanes o gwympo neu gael anaf yn gyson neu heb esboniad.