Dyma ein nodau

English

 

Hourglass Cymru: 

 

Bydd Hourglass Cymru yn parhau i lobïo a dylanwadu ar y fframwaith cyfreithiol a chyfiawnder troseddol ac ar Lywodraeth Cymru i amddiffyn pobl hŷn rhag cael eu cam-drin a chreu sgwrs genedlaethol ynghylch heneiddio'n ddiogel.

 

Byddwn yn parhau i deilwra'r ffordd rydyn ni'n cyflwyno pob ymgyrch a gwasanaeth i gynulleidfaoedd, gydag ymrwymiad i fuddsoddi yn ein Llinell Gymorth i sicrhau bod gwasanaeth dwyieithog ar gael.

 

Ein nod yw taflu goleuni ar rwystrau sefydliadol i wasanaethau pobl hŷn sydd mewn grwpiau lleiafrifol yng Nghymru drwy ddod â phortffolio amrywiol o astudiaethau achos at ei gilydd.


 

UK: 

 

Bydd Hourglass yn ymgyrchu ac yn galw'n ddiflinio am roi cam-drin pobl hŷn a'r angen brys am agenda heneiddio'n ddiogel ar frig pob meddwl strategol am gamfanteisio, cam-drin ac esgeuluso.

 

Byddwn yn cydweithio â sefydliadau rheng flaen eraill i ddatblygu banc gwybodaeth cadarn, fel bod ein holl waith yn sensitif i'r amrywiaeth sydd i'w gael ymysg y bobl hŷn rydyn ni'n eu cefnogi.

 

Byddwn yn mynd i'r afael â cham-drin pobl hŷn yn ariannol, gan weithio yn y sector ariannol a'r trydydd sector i rannu gwybodaeth, arferion da ac arbenigedd er mwyn deall camfanteisio'n well a'i atal.

 

Byddwn yn mynd â'r ddealltwriaeth yma, ynghyd â'n rhwydwaith arbenigol o ddylanwadwyr, noddwyr ac ymarferwyr, i galon prosesau gwneud penderfyniadau ac yn tynnu sylw at ddifrifoldeb cam-drin pobl hŷn.

 

Byddwn yn ceisio codi proffil y risgiau sy'n gysylltiedig â heneiddio drwy gomisiynu ymchwil fanwl sy'n datgelu lleisiau a straeon y rhai rydyn ni'n eu cefnogi. Byddwn yn mynnu mwy o dryloywder a mynediad at ddata sy'n ymwneud â diogelu oedolion a throseddau yn erbyn pobl hŷn – ar draws yr holl grwpiau cymdeithasol.

 

Rydyn ni am sefydlu awdurdod a bod yn arbenigwyr blaenllaw ar faterion cam-drin, niweidio a chamfanteisio ar bobl hŷn. Hourglass yw'r pwynt cyswllt cyntaf ar gyfer y cyfryngau a llunwyr polisi.