Rydyn ni'n pryderu'n fawr am y risg sylweddol uwch o gamdriniaeth ac esgeuluso i'r boblogaeth hŷn wrth i gyfyngiadau symud a hunanynysu ddod i rym yng ngwledydd Prydain er mwyn mynd i'r afael â'r pandemig marwol, sef COVID-19.
Os oes gennych unrhyw bryderon amdanoch chi eich hunan neu rywun hŷn, ffoniwch ein Llinell Gymorth ar 0808 808 8141 – rydyn ni yma i'ch helpu rhwng 9.00yb a 5.00yp, o ddydd Llun i ddydd Gwener. Gallwch adael neges y tu allan i'r oriau yma.
Isod, rydyn ni wedi cynnwys ffynonellau ychwanegol a all fod o gymorth i chi neu unigolyn hŷn y gallech fod yn pryderu yn eu cylch.
Cyffredinol
Mae modd dod o hyd i'r cyngor diweddaraf gan lywodraeth San Steffan yn www.gov.uk/coronavirus.
Gellir dod o hyd i fersiynau mewn Iaith Arwyddion Prydain yn www.signhealth.co.uk/coronavirus.
Lechyd
Mae amrywiaeth o ffynonellau gwybodaeth am sut i gadw'n iach a beth i'w wneud os ydych chi'n amau bod gennych COVID-19, ar sail ble rydych chi'n byw. Mae llawer o wybodaeth gamarweiniol am COVID-19/Coronafeirws, felly gwnewch yn siŵr mai dim ond cyngor swyddogol rydych chi'n ei ddilyn.
Cymru
https://www.nhsdirect.wales.nhs.uk/SelfAssessments/symptomcheckers/COVID19.aspx?locale=cy
Sgamiau a throseddau ar stepen drws
Yn anffodus, rydyn ni'n ymwybodol o lawer o sgamiau sy'n manteisio ar bobl sy'n agored i niwed yn ystod y cyfnod yma. Mae sgamiau'n digwydd ar sawl ffurf, a gall yr adnoddau canlynol eich helpu i adnabod ac osgoi bod yn ddioddefwr twyll.
Adnabod negeseuon e-bost sgam/gwe-rwydo:
Os ydych wedi cael neges e-bost amheus, gall y wefan ganlynol eich helpu i nodi a yw'n rhan o sgam ai peidio – hyd yn oed os nad yw'r wefan yma'n nodi'r neges fel sgam, dylech barhau i gymryd gofal wrth ddarllen y neges https://coronavirusphishing.com/search/
Gwarchod eraill rhag sgamiau:
Mae Cyfeillion yn Erbyn Sgamiau wedi creu hyfforddiant ar-lein, fel y gallwch ddeall mwy am sgamiau a helpu i warchod pobl eraill rhag bod yn ddioddefwyr. https://www.friendsagainstscams.org.uk/training/friends-elearning
Cymru
https://www.tradingstandardswales.org.uk/help/doorstepcrime.cfm